Profiadau Arbennig

Mae’n amhosib osgoi’r cestyll (yn llythrennol: maen nhw’n enfawr!).  Ac ni ddylech golli cyfle i ymgolli yn rhai o uchafbwyntiau diwylliannol a hanesyddol eraill y darn hwn o arfordir. Dyma’r deg uchaf gennym ni.
  • Pontcysyllte, Gogledd Cymru
    Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Gogledd Cymru gan Wales on View
    Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn gampwaith meistrolgar gan beirianwyr y cyfnod Sioraidd. Agorwyd y draphont yn 1805, ac mae’n cludo Camlas Llangollen fry uwchlaw dyffryn Dyfrdwy. Gallwch gerdded neu (gorau oll) logi bad camlas neu gaiac i groesi dros draphont ddŵr uchaf y byd. Ymysg atyniadau eraill Llangollen mae’r rheilffordd stêm, rafftio dŵr gwyn ar afon Dyfrdwy ac Eisteddfod Ryngwladol flynyddol ragorol y dref. 
     
  • Perfformiad o fri

    Adeilad Venue Cymru, Llandudno.
    Venue Cymru, Llandudno
    Theatr Clwyd yw canolfan gelfyddydau hynod effeithiol yr ardal o gwmpas yr Wyddgrug, ond mae’n rhagori wrth gynhyrchu dramâu gwreiddiol. Yn Llandudno, mae Venue Cymru’n un o leoliadau perfformwyr a sioeau mawr sydd ar daith, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru. Yng Ngregynog y bydd ein gŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf yn digwydd, ble perfformiwyd gweithiau gan gyfansoddwyr fel Gustav Holst ac Eric Whitacre am y tro cyntaf.
  • Castell Conwy
    Castell Conwy, Gogledd Cymru
    Gellir gweld y castell o’r 13eg ganrif am filltiroedd, waeth pa ffordd ddewch chi i Gonwy, ac mae’n un o sawl campwaith gormesol gan bensaer Edward I, James of St George, yng Ngogledd Cymru. Deil y castell i fwrw’i gysgod yn llwyr dros y dref, a amgylchynir gan un o’r muriau gorau yn Ewrop, â 21 tŵr a thri phorth. 
     
  • Pobl ar ben mynydd, Zip World
    Zip World, Gogledd Cymru
    Mae weirenni zip cyflymaf y byd, a’r hiraf yn Ewrop, i’w canfod uwchlaw Chwarel y Penrhyn, chwarel lechi fwya’r byd ar un adeg. Mae dwy weiren gyfochrog yn rhedeg am filltir (1.6km): wrth i reidwyr orwedd ar wastad mewn harnais, gallant gyrraedd cyflymder dros 100mya (160kya) wrth iddynt hedfan 500 troedfedd (150m) uwchlaw llyn. 
  • Castell Biwmares.
    Castell Biwmares
    Yr olaf o gadwyn Edward I o gadarnleoedd yw’r castell mwyaf technegol berffaith ym Mhrydain hyd heddiw, gan ddefnyddio cynllun ‘waliau o fewn waliau’. Chafodd Edward erioed gyfle i gwblhau’r gwaith adeiladu ym Miwmares (tynnwyd ei sylw gan yr Albanwyr aflonydd). Serch hynny, mae UNESCO’n barnu fod Biwmares yn un o’r ‘enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol yn Ewrop’, ac ynghyd â chestyll eraill Edward yng Nghymru, dyma safle Treftadaeth y Byd.
  • Amgueddfa Lechi Cymru
    Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Gogledd Cymru
    Mae rhai darnau o’n mynyddoedd ar goll, fel pe bai cawr enfawr wedi brathu talpiau enfawr ohonynt. Dyna i chi ôl y diwydiant llechi, a fu’n gyfrifol am roi to (yn llythrennol felly) dros Brydain Oes Fictoria. Caeodd chwarel enfawr Dinorwig yn 1969, ac erbyn hyn mae’r gweithdai Fictoraidd yn adrodd hanes y diwydiant llechi a’r ffordd y newidiodd dirwedd a phobl y gogledd. Cyn-chwarelwyr yw’r rhan fwyaf o’r staff yma, sy’n dod â’r stori’n fyw i ymwelwyr. Lleolir yr amgueddfa ger troed yr Wyddfa, ar lan Llyn Padarn, ger gorsaf Rheilffordd Llyn Padarn.
  • Plas Newydd, Ynys Môn
    Plas Newydd, Ynys Môn
    Y plas gwledig hwn ar lannau’r Fenai yw cartref Ardalydd Môn a’i gyndeidiau, ac mae’n cadw’r casgliad mwyaf o waith yr artist Rex Whistler, ynghyd ag amgueddfa filwrol a gardd wanwyn odidog. Yr Ardalydd cyntaf arweiniodd y cyrch ym Mrwydr Waterloo, gan golli’i goes yno. Arddangosir ei goes bren yma (er mai ei goes ‘gerdded’ yw hon i fod yn fanwl gywir – roedd ganddo goesau eraill ar gyfer marchogaeth a dawnsio).
  • Castell Caernarfon, Gwynedd.
    Castell Caernarfon, Gwynedd gan
    Dechreuodd Edward I ar y gwaith o adeiladu Castell Caernarfon yn ystod y 1280au er mwyn rheoli Gogledd Cymru, ar ôl trechu Llywelyn ein Llyw Olaf. Cynlluniwyd y castell i goncro ac i greu argraff, gyda’i dyrrau amlochrog, a’r bandiau o gerrig amryliw. Ni fu’r goncwest yn llwyddiant ysgubol – yn ardal Caernarfon y mae’r ganran uchaf o Gymry Cymraeg yn byw hyd heddiw (bron i 90%). Mae hi’n dref hyfryd hefyd, ble gallwch esgus bod yn Gofi eich hun: mae bar tafarn y Black Boy yn lle da i gychwyn!
  • Ynys Llanddwyn, Ynys Môn.
    Ynys Llanddwyn, Ynys Môn
    Os oes angen tystiolaeth arnoch ein bod ni’r Cymry’n fwy rhamantus na phawb arall, ystyriwch fod gennym ein nawddsant ein hunain ar gyfer y cariadon, sef Santes Dwynwen. Dethlir ei dydd gŵyl ar 25 Ionawr, i gofio am y dywysoges o’r bumed ganrif a sefydlodd leiandy ar y penrhyn bach hwn, ble gwelir dau oleudy, adfeilion capel, nifer o ffynhonnau a llond dwrn o fythynnod peilotiaid, sy’n gweithredu fel canolfan ymwelwyr dros yr haf. Y tu ôl i’r traeth enfawr, mae gwarchodfa natur yn y twyni a choedwig sy’n gartref i wiwerod coch a thorf enfawr o gigfrain.
  • Goleudu Ynys Lawd.
    Goleudu Ynys Lawd, Ynys Môn gan Joseph Noble
    Pan adeiladwyd y goleudy yn 1809, byddai’n rhaid i ymwelwyr groesi mewn basged oedd yn hongian o raff; heddiw mae yma bont gul sy’n croesi o Ynys Cybi, ond rhaid disgyn i lawr 400 o risiau ar ochr y clogwyn i’w chyrraedd. Mae hi’n werth yr ymdrech, cofiwch: mae’r warchodfa natur o gwmpas y goleudy’n gartref i filoedd o adar y môr sy’n magu yma. Yn eu plith mae gwylogod, llursod a phalod, ac oddi ar y lan, fe allech weld morloi, dolffiniaid a llamhidyddion.